Cystadleuthau Celf / Art Competitions
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru
CELF, DYLUNIO A THECHNOLEG 2014
THEMA: Rhyfeddodau (Wonders)
(Am ddiffiniad pellach o’r thema ewch i’r wefan urdd.org/eisteddfod) Mae rhyddid i unigolion ac i grwpiau ddehongli’r thema yn eu ffordd eu hunain. Mae’n bosib ei dehongli’n llythrennol neu’n haniaethol.
Y FEDAL GELF, DYLUNIO A THECHNOLEG
Rhoddir y Fedal eleni gan Ian Lloyd Hughes
Cyflwynir medal arian a fydd yn eiddo parhaol i’r buddugol am yr eitem orau yn yr Adran Gelf, Dylunio a Thechnoleg dan 19 oed o blith cystadlaethau 162 a 163.
Yr Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg
drwy garedigrwydd Dr. Dewi Davies a’i deulu. Cyflwynir yr ysgoloriaeth uchod gwerth £2,000 am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18-25 oed.
Canllawiau’r Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg
Fe dynnir rhestr fer o ymgeiswyr haeddiannol ar gyfer yr ysgoloriaeth yn union wedi’r beirniadu fis Ebrill gan gynrychiolwyr o is-banel canolog a phanel lleol yr Urdd ac yna gwahoddwn hwy i gyflwyno llythyr cais a fydd yn mynegi sut y byddant yn defnyddio’r ysgoloriaeth i hybu a datblygu eu gwaith Celf, Dylunio a Thechnoleg. Bydd y ceisiadau wedyn yn cael eu hystyried gan y panel sefydlog a cedwir yr hawl i ofyn i’r cystadleuwyr ar y rhestr fer i ddod i gyfweliad. Y gobaith yw y bydd yr enillydd yn cael ei wahodd yn ôl y flwyddyn ganlynol i arddangos detholiad o’i waith yn yr arddangosfa.
Pwy sy’n cael cystadlu?
Mae’r gystadleuaeth yn agored i’r sawl a all gyfarfod ag un neu fwy o’r amodau/ meini prawf canlynol ac sydd yn aelod o’r Urdd
• Ganwyd yng Nghymru neu sydd â rhieni o Gymru
• Byw neu’n gweithio yng Nghymru am y tair blynedd cyn dyddiad yr Eisteddfod
• Unrhyw berson sy’n siarad neu’n ysgrifennu Cymraeg